SL(6)138 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022

Cefndir a diben

O ran Cymru, cyfrifir y lluosydd ardrethu annomestig yn unol â pharagraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) ar gyfer pob blwyddyn ariannol pan nad oes rhestrau ardrethu newydd yn cael eu llunio. Nid oes rhestrau ardrethu newydd yn cael eu llunio ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022.

Mae’r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn cynnwys eitem B, sef y mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan baragraff 5(13A) o Atodlen 7 i'r Ddeddf i bennu, drwy reoliadau, ffigur gwahanol ar gyfer eitem B. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2022, mai'r ffigur ar gyfer eitem B yw 109.1.

Effaith y Rheoliadau hyn fydd bod y lluosydd ardrethu annomestig yn parhau i fod yr un ffigur â'r ffigur a gyfrifwyd ar gyfer y blynyddoedd ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2020 ac 1 Ebrill 2021.

Gweithdrefn

Gwneud cadarnhaol

Gwnaed y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Yn unol â pharagraff 5(13C) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r Rheoliadau cyn i'r Senedd gymeradwyo'r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2022, neu cyn 1 Mawrth 2022 (pa un bynnag sydd gynharaf).

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(i) a 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath

Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Rydym yn nodi:

a. pwysigrwydd y Rheoliadau hyn a'u heffaith ar y setliadau refeniw llywodraeth leol blynyddol, a

b. penderfyniad Llywodraeth Cymru i rewi'r lluosydd ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2022 yn hytrach na chynyddu'r lluosydd drwy gyfeirio at y mynegai prisiau defnyddwyr (y sefyllfa "ddiofyn" newydd yn Neddf 1988 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Yn adran 4, mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau:

“Bydd holl berchnogion neu feddianwyr eiddo annomestig sy'n talu ardrethi yn elwa o'r newid.  Bydd hyd yn oed eiddo sy'n cael symiau sylweddol o ryddhad ardrethi yn elwa, gan y bydd y rhwymedigaeth weddilliol yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddiol luosydd is…

Bydd rhewi'r lluosydd yng Nghymru, yn hytrach na'i gynyddu yn ôl CPI, yn lleihau'r incwm i'r gronfa ardrethi annomestig yn 2022-23.  Bydd y gostyngiad yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei adlewyrchu yn y cyfrifiadau ar gyfer setliadau llywodraeth leol, fel nad oes unrhyw effaith ariannol ar gyllidebau awdurdodau lleol na chyllidebau'r heddlu.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

1 Chwefror 2022